Letra de Pioden
Gwyn a du, a ddylwn i, droi yn fy unfan i'th gyfarch di?
Dy gân yn fy swyno, dy ddawns ysgafn droed
Dy wên yn un ddoniol, tra'n chwarae yn y coed


Mi goda i fy llaw cyn symud mlaen ar fy nhaith
Mi gollais i'r cyfle i gloi ar fy ôl, lawer gwaith


Yn yr ardd, aderyn hardd
Dy wisg yn fy hudo, a'm eiddo yn temtio
Creadur craff, 's neb yn saff
Tra?n edrych mor ffyddlon, ti'n bwydo'r amheuon
Ac ysu am drysorau cain


Du a gwyn, ti'n methu dim, manteisio ar unrhyw gyfle prin
Fy ffenest ar agor, edrychaist o'r gwair
Cymeraist dy gyfle i gipio'r aur


Mi godaist fy ngobeithion a'u tynnu i lawr mewn dim
Mi gollais i'r cyfan i leidr a oedd mor chwim


Yn yr ardd, aderyn hardd
Dy wisg yn fy hudo, a'm eiddo yn temtio
Creadur craff, 's neb yn saff
Siom yw darganfod fod gen ti arferion cas


Pioden wen, pioden ddu, meddal yw dy feddwl di
Pioden wen, pioden ddu, paid â thrio'n twyllo ni
Pioden wen, pioden ddu, cyfrwys yw dy gynllun di
Pioden wen, pioden ddu, paid â thrio'n twyllo ni
Pioden wen, pioden ddu, dial ar ein gwendid ni
Pioden wen, pioden ddu, paid â thrio'n twyllo ni