Letra de Isel
Fûm i rioed mor isel, isel
Yn cuddio o'r haul nes iddi nosi ar lethrau'r llechan las

Fûm i rioed mor dawel, dawel
Yn disgwyl am y teimlad i lenwi'r tyllau llwm a holltwyd yn ddwfn


Ac roedd na rywbeth bach, o hyd ar goll
Rywbeth bach, o hyd ar goll


Pan ti'n dyner, pan ti'n dyner
Ti yn dyner fel gwlith
Ac yn dyner fel yr awel
Yn dyner a thawel


Fûm i rioed yn chwilio, chwilio
Ond balch o ni i'th ffindio yn llechu dan y ddeilen werdd


Fûm i rioed yn morio, morio
Ar goll heb neb na gwynt i gydio yn fy mhadell ffrio


Ac roedd na rywbeth bach o hyd ar goll
Rywbeth bach, o hyd ar goll


Pan ti'n dyner, pan ti'n dyner
Ti yn dyner fel gwlith
Ac yn dyner fel yr awel
Yn dyner a thawel